Diolch yn fawr iawn i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, criw Porthmadog a Gwawr am ymweld ag Ysgol Eifionydd dydd Iau, 1/10/2026. Mae disgyblion Blwyddyn 8 wedi bod yn ysgrifennu’n greadigol yn am danau gwyllt yn y gwersi Saesneg, ac roedd hwn yn gyfle gwych i ofyn cwestiynau a chael blas ar fywyd diffoddwr tân!
Yr Adran Saesneg
Bu rhai o’n disgyblion Blwyddyn 8 yn cystadlu mewn cystadleuaeth farddoniaeth i ddathlu 75 mlynedd o Barc Cenedlaethol Eryri. Rydym yn falch iawn o’u cerddi creadigol, wedi’u hysbrydoli gan Eryri a’r amgylchedd. Dyma flas ar eu creadigrwydd. Pob lwc!
Adrannau ieithoedd
I nodi Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth a’r Flwyddyn Genedlaethol Darllen, cynhaliwyd gwasanaeth i ddathlu dau awdur lleol: y Prifardd Rhys Iorwerth a Casia Wiliam, awdur clodwiw a chyn-Fardd Plant Cymru. Eu neges? Codi llyfr, codi beiro — mae creadigrwydd ym mhob un ohonom! Diolch am ein hysbrydoli.
Croesawyd PC Rhiannon Wright i’r ysgol i drafod ac atgyfnerthu’r neges bwysig i ddisgyblion blwyddyn 8, ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bu’n gyfle gwerthfawr i’n disgyblion drafod sut gall eu dewisiadau a’u hymddygiad effeithio ar eraill a’r gymuned ehangach.
Gwasanaeth Owain Glyn Dŵr
Rydym wedi cael amrywiaeth o negeseuon pwysig a diddorol yn ein gwasanaethau dros y bythefnos diwethaf, diolch i gyfraniadau gan griwiau tiwtor 8SS/BM, Blwyddyn 9 a Maes Dysgu a Phrofiad i-Feddwl (Y Dyniaethau).
Bu Mr Ifan Jones, Pennaeth i-Feddwl, yn rhannu ei daith ddiddorol ar Foel Hebog i Ogof Owain Glyndŵr, gan nodi Diwrnod Owain Glyndŵr a dod â hanes lleol yn fyw i’n disgyblion.
Cawsom hefyd negeseuon pwerus gan ddisgyblion Blwyddyn 9 am y cyfryngau cymdeithasol, drwy gyflwyniad yr oeddent wedi’i greu fel rhan o’u gwaith yn yr Adran Saesneg. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae’n braf gweld ein hadrannau, ein criwiau tiwtor a’n disgyblion yn defnyddio ein gwasanaethau i rannu’r pethau sy’n bwysig iddynt ac i roi blas i weddill yr ysgol ar eu dysgu, eu diddordebau a’u profiadau.
Urdd
Diolch yn fawr i Simon o’r Urdd am ddod atom yn ystod y bythefnos diwethaf i gynnal gwasanaethau gyda disgyblion Blynyddoedd 7–11.
Cafodd ein disgyblion gyfle i glywed am yr holl gyfleoedd cyffrous sydd gan yr Urdd i’w cynnig dros y misoedd nesaf, gyda chyfleoedd gwych mewn sawl maes gwahanol i gymryd rhan, datblygu sgiliau, rhoi cynnig ar brofiadau newydd a mwynhau defnyddio’r Gymraeg.
Diolch, Simon, am rannu’r holl wybodaeth ac am annog ein disgyblion i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael!
Darganfyddwch fwy am gyfleoedd yr Urdd: urdd.cymru
Bu cyfarfod cyntaf y tymor o Glwb Cymru yr ysgol dydd Iau, 24.09.2026. Pawb wedi mwynhau creu eu harwyddion eu hun ar gyfer coridorau'r ysgol!
lluniau i ddilyn...